Beth rydyn ni'n ei wneud /
Llawer iawn i fod yn falch ohono!
O ran llwyddiant chwaraeon elitaidd, mae gan Gymru lawer i fod
yn falch ohono.
Dychwelodd tîm Cymru o Glasgow 2014 gyda 36 o fedalau - gan
gynnwys 5 medal aur - a thorri pob record. Frankie Jones oedd yr
athletwraig gyntaf erioed o Gymru i gipio 6 medal mewn Gemau
Cymanwlad, gan ennill 1 Aur a 5 arian, a Jazz Carlin oedd y fenyw
gyntaf o Gymru ers 40 mlynedd i ennill medal nofio Aur.
Wedyn dilynodd athletwyr Cymru hynny gyda 10 medal yn Rio 2016.
Hefyd, y grŵp hwn o athletwyr a greodd hanes oedd y garfan dramor
fwyaf erioed o athletwyr Cymru mewn Gemau Olympaidd.
Mae Strategaeth
Chwaraeon Elitaidd gennym yn datgan llwybr uchelgeisiol a
heriol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.
Rydyn ni, a hefyd ein partneriaid, yn credu y dylem ddal ati i'n
herio ein hunain, nid yn unig er mwyn cynnal ein llwyddiant ond
hefyd i adeiladu arno. Rydyn ni eisiau mesur ein llwyddiant nid dim
ond yn erbyn y gwledydd eraill yn y DU, ond ar lefel fyd-eang a dod
yn esiampl o sut mae datblygu a chynnal llwyddiant mewn chwaraeon
elitaidd.
Rydyn ni am i Gymru gael ei gweld fel cenedl o bencampwyr, ble
mae ennill yn cael ei ddisgwyl, talent yn cael ei datblygu a
llwyddiant yn cael ei hybu a'i ddathlu ledled ystod eang o
chwaraeon.
Pa gefnogaeth ydyn ni'n ei darparu?
Mae ein tîm hynod fedrus yn darparu cefnogaeth a chyngor i
athletwyr Cymru mewn 3 phrif faes: