Grantiau Teithiau Tramor
Rydym wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb am Grantiau Teithio Tramor
i Grp Gweithgareddau Awyr Agored Cymdeithas
Chwaraeon Cymru er 2007.
Hwy sydd bellach yn delio ag asesu ceisiadau a gweinyddu'r
Cymorth Grant o ddydd i ddydd er mwyn cefnogi teithiau tramor.
Yr Awyr Agored
Yn y gorffennol, mae'r ceisiadau llwyddiannus wedi'u cyflwyno
gan sefydliadau mynydda, crwydro ogofâu, deifio mewn ogofâu, canŵio
a pharagleidio. Ond mae Grŵp Awyr Agored Cymdeithas Chwaraeon
Cymru'n fodlon ystyried ceisiadau gan weithgareddau awyr agored
eraill, ar yr amod bod y daith yn un arloesol ac yn debygol o
hyrwyddo datblygiad y gweithgaredd penodol.
Bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail ei rinweddau unigol ac
wedi ymgynghori â'r Corff Rheoli Cenedlaethol priodol.
Pwy sy'n gymwys?
Rhoddir blaenoriaeth i deithiau wedi'u lleoli yng Nghymru, lle
mae mwyafrif yr aelodau'n Gymry. Dim ond y Cymry ymhlith aelodau'r
tîm fydd yn gymwys, ar sail genedigaeth, tra rhieni neu os ydynt
wedi byw yng Nghymru'n barhaol ers dwy flynedd a mwy.
Faint sydd ar gael?
Bydd y grantiau fel rheol yn gyfyngedig i gyfraniad o hyd
at 50% tuag at gostau amcangyfrifol y teithio, yn y DG a
thramor, offer ychwanegol hanfodol ac offer diogelwch.
Sut i wneud cais
Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau am gefnogaeth i daith ar y
ffurflen gais briodol, cyn dyddiad y daith arfaethedig. mae'n rhaid
derbyn y ceisiadau erbyn 31 Rhagfyr, cyn y
flwyddyn ariannol (1 Ebrill - 31 Mawrth) pryd bwriedir
cynnal y daith.
Dylid anfon ymholiadau a cheisiadau at:
Paul
Dancey
Cymdeithas Chwaraeon Cymru
Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
Gerddi Sophia
Caerdydd
CF11 9SW
E-bost: paul.dancey@welshsports.org.uk
Ffôn: 0845 846 0020 Ffacs: 0845 846 0014