Map Hyfforddiant
Cefndir
O ymgorffori cydraddoldeb mewn sefydliad, mae'n bwysig bod
cynllun hyfforddi'n cael ei ddatblygu a'i gyflwyno, a'i adolygu'n
rheolaidd.
Cymwyseddau cydraddoldeb cyffredinol
Ymgymryd â dadansoddiad o anghenion hyfforddi a llunio cynllun
hyfforddi i ddatblygu gweithlu medrus sy'n gwneud y canlynol:
- Hybu cydraddoldeb ar bob lefel
- Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Sicrhau bod adnoddau dynol ac ariannol yn cael eu neilltuo a'u
blaenoriaethu i gefnogi cydraddoldeb
- Datgan nodweddion allweddol diwylliant sy'n hybu cydraddoldeb
ac yn gweld gwerth mewn amrywiaeth
- Esbonio perthnasedd Deddf Cydraddoldeb 2010 i'w sefydliad ei
hun
- Esbonio beth yw'r holl nodweddion
gwarchodedig
- Ymddwyn a siarad mewn ffordd sy'n parchu pawb bob
amser
- Adnabod ymddygiad ac iaith sy'n briodol i hybu cydraddoldeb a
gwerthfawrogi amrywiaeth
- Adnabod ymddygiad annheg, amhriodol a
gwahaniaethol
- Nodi sut mae herio ac adrodd yn ôl am iaith neu ymddygiad
amhriodol neu wahaniaethol - hiliol, homoffobig, trawsffobig,
cam-drin mewn perthynas ag anabledd, oedran, crefydd neu ryw
- Deall ymrwymiad y sefydliad i gydraddoldeb
Lawrlwythwch grynodeb o'r hyfforddiant cydraddoldeb cyffredinol
a phenodol i elfen yma.
Mathau o hyfforddiant
Gall yr hyfforddiant fod ar sawl ffurf, fel y canlynol:
- Gweithdai wyneb yn wyneb
- Dysgu ar-lein
- Briffiau mewn cyfarfodydd
- Dogfennau copi caled a/neu feddal
- Nodiadau cyfarwyddyd
- Seminarau
- Cynadleddau, ac ati.
Lawrlwythwch grynodeb o'r hyfforddiant cydraddoldeb cyffredinol
sydd ar gael yma.
Lawrlwythwch grynodeb o'r hyfforddiant penodol i elfen sydd ar
gael yma.
Beth ddylid ei ystyried wrth ddatgan y dulliau mwyaf priodol o
gyflwyno hyfforddiant cydraddoldeb
- Bydd dull pragmataidd o weithredu'n sicrhau bod hyfforddiant ar
gael i bawb sy'n ymwneud â
sefydliadau
- Dylai'r holl hyfforddiant wyneb yn wyneb neu ar-lein fod â
chanlyniadau dysgu clir y mae'r rhai sy'n ei fynychu'n
ymwybodol
ohono
- Dylai pob ffurf ar hyfforddiant fod â phwrpas clir ac yn
gysylltiedig â gweledigaeth a strategaeth gyffredinol y
sefydliad
- Efallai y bydd rhaid i'r bobl allweddol sy'n gwneud
penderfyniadau gael cyfleoedd i drafod eu safbwyntiau am
gydraddoldeb ac, mewn
rhai achosion, efallai y bydd rhaid herio eu hagweddau, a dim ond
drwy weithdai wyneb yn wyneb y gellir gwneud hynny
- Er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn gwbl berthnasol, dylai'r
hyfforddiant gynnwys astudiaethau achos penodol i chwaraeon
- Mae profiad yr hwyluswyr/tiwtoriaid a'u gallu i ddelio'n hyblyg
â dysgwyr sy'n oedolion, yn ogystal â newid agweddau mewn
ffordd
gadarnhaol, yn
allweddol
- Enw da'r
darparwyr