Aelodau'r Cyngor
Cadeirydd - Lawrence Conway
Ganwyd a magwyd Lawrence yng Nghaerdydd ac mae'n briod gyda
phedwar o blant. Ymunodd â'r gwasanaeth sifil yn 1968 a chafodd
swyddi amrywiol yn y Swyddfa Gymreig, gan gynnwys secondiad i
Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ar ddechrau'r 1990au fel
Cynorthwy-ydd i'r Prif Weithredwr. Yn dilyn y penodiad hwnnw, bu
Lawrence yn bennaeth adran y Swyddfa Gymreig ar gyfer cyrff hyd
braich a noddwyd, gan gynnwys Awdurdod Datblygu Cymru. Daeth yn
bennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet ac Adran y Prif Weinidog yn
1998 a bu yn y swydd honno nes ymddeol yn 2010. Cafodd Lawrence ei
ddyfarnu'n Gydymaith Caerfaddon yn 2012.
Is - Gadeirydd - Pippa Britton
Pippa yw Cadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru ar hyn o bryd ac
mae'n gyn athletwraig. Mae Pippa yn aelod o'r Pwyllgor Anrhydeddau
Chwaraeon; Bwrdd Gwrthgyffuriau'r DU; Pwyllgor Cynghori
Paralympaidd Prydain a Bwrdd Saethyddiaeth Prydain Fawr.
Arferai wasanaethu ar Raglen Arweinyddiaeth Ryngwladol y DU ac
mae'n aelod o Is Grŵp Elitaidd Chwaraeon Cymru a Phwyllgor Para
Saethyddiaeth y Byd, yn dilyn ei hymddeoliad o'r gamp yn 2014.
Ashok Ahir
Mae gan Ashok gefndir ym maes cyfathrebu a'r cyfryngau. Mae'n
gydberchennog asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog sy'n gweithio ar
draws y sectorau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector.
Hefyd mae'n Gadeirydd pwyllgor trefnu Eisteddfod Genedlaethol
2018 ac yn aelod o'i bwrdd rheoli. Arferai ymwneud â Grŵp Adolygu
Cymraeg ar gyfer Oedolion ac roedd yn Olygydd Gwleidyddiaeth
Gweithredol gyda BBC Cymru Wales.
Ian Bancroft
Yn 2018 penodwyd Ian yn Brif Weithredwr Cyngor Wrecsam. Cyn hyn,
roedd yn Gyfarwyddwr Perthnasoedd Rhanbarthol gyda Knowsley MBC, yn
Gyfarwyddwr Gweithredol gydag Ymddiriedolaeth Hamdden a Diwylliant
Wigan, yn Brif Swyddog Polisi gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam ac yn Rheolwr Strategaeth ar gyfer Adran Gwasanaethau
Hamdden Cyngor Dinas Nottingham.
Arferai fod yn aelod bwrdd o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar
gyfer y Gogledd Orllewin hefyd.
Alison Thorne
Mae Alison yn ymddiriedolwr gyda Chwarae Teg ac yn Gyfarwyddwr
Anweithredol gydag ymgynghoriaeth adwerthu ac ille de Cocos (brand
ffasiwn). Mae hefyd yn Sylfaenydd atconnect - cwmni datblygu busnes
a phobl. Arferai wasanaethu fel ymddiriedolwr gydag Ymddiriedolaeth
Tropical Forest (rheolaeth gynaliadwy ar fforestydd) a Phwyllgor
MBA (Coleg Ffasiwn Llundain).
Roedd ei gyrfa gynharach ym myd busnes, adwerthu a datblygu
pobl.
Judi Rhys
Mae gan Judi gefndir ym myd iechyd, addysg a lles cymdeithasol a
gweithiodd fel arbenigwr hybu iechyd gyda'r GIG ar y cychwyn yng
Nghymoedd De Cymru. Roedd yn diwtor staff y Brifysgol Agored ac yn
rheolwr y staff academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn ei phenodi
yn Gyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, yna'n Gyfarwyddwr Cymdeithas MS
Cymru, ac yn dilyn hynny Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymdeithas MS y
DU. Mae Judi wedi bod yn Brif Weithredwr gyda'r elusennau
Gofal Arthritis ac Ymddiriedolaeth Afu Prydain. Mae'n
gyfarwyddwr anweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae ganddi
gymhwyster ôl-raddedig yn hyrwyddo iechyd, rheoli, addysg a
hyfforddi gweithredol. Derbyniodd Judi wobr Cymrodoriaeth ACEVO yn
2015. Cafodd Judi ei geni a'i magu yn ne Cymru ac mae bellach
yn byw yn Nghaerdydd. Mae'n mwynhau chwaraeon amatur, ac wedi
cystadlu yn y gorffennol ym maes marchogaeth, hoci a nofio ac mae
bellach yn redwr pellter hir brwdfrydig.
Yr Athro Leigh Robinson
Mae'r Athro Leigh Robinson yn Athro Rheoli Chwaraeon ac yn
Ddirprwy Is-Ganghellor (Cyncoed) a Deon Gweithredol Coleg Chwaraeon
a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ganddi enw
da yn rhyngwladol am ei gwaith ymchwil a'i gwybodaeth o ddatblygu
mantais gystadleuol a llywodraethu wrth ddatblygu gwledydd sy'n
cystadlu ym maes chwaraeon. Mae wedi gweithio gyda nifer o
sefydliadau, megis y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, Cymdeithas
Olympaidd Prydain, Pwyllgor Olympaidd Trinidad a Tobago a
Llywodraeth Malaysia, gan gynnig hyfforddiant rheoli llywodraethu
ac ymgynghori. Mae'n aelod y rhwydwaith MEMOS, rhwydwaith byd-eang
o academyddion sy'n gyfrifol am ddarparu addysg rheoli gweithredol
ar ran y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Bu Leigh yn aelod o Fwrdd
Gemau'r Gymanwlad yn yr Alban a Sport Scotland a bu'n cynghori'r
sefydliad Olympic Solidarity, comisiwn addysgol y Pwyllgor
Olympaidd ar eu rhaglenni dysgu rheoli.
Martin Veale YH
Mae Martin yn Aelod Annibynnol o Ymddiriedolaeth GIG Felindre,
ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, llywodraethwr
Coleg Gwent, a llywodraethwr yn ysgol gynradd ei ferch. Mae hefyd
yn gwasanaethu ar bwyllgorau archwilio Cyngor Sir Penfro, Cyngor
Cyllido Addysg Uwch Cymru a Bristol Community Health. Yn ynad ar
hyn o bryd, mae Martin ar y fainc yn y Canolbarth. Aeth
Martin i Ysgol Ramadeg Glynebwy, ac mae ganddo radd BA o Ddwyrain
Llundain ac MSc o brifysgolion Dinas Birmingham. Mae'n Gymrodor
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ac mae
ganddo Gymhwyster y Sefydliad Archwilwyr Mewnol mewn Arweinyddiaeth
Archwilio Mewnol. Mae ei yrfa cyllid, risg a llywodraethu
corfforaethol yn cynnwys llywodraeth leol, y GIG a Llywodraeth
Cymru, cyn iddo ymuno â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru fel Cyfarwyddwr
Cyllid, a daeth yn Bennaeth Archwilio a Risg wedi creu Cyfoeth
Naturiol Cymru. Cafodd Martin ei fagu yng Nglynebwy ac mae
bellach yn byw ym Mhontypridd gyda'i wraig a'i ferch. Mae'n cefnogi
tîm rygbi Glynebwy a chriced Morgannwg.
Phil Tilley
Mae Phil wedi ymddeol yn ddiweddar yn dilyn gyrfa o dros 25
mlynedd ym maes marchnata uwch-dechnegol. Mae wedi cael profiad o
dimau marchnata byd-eang a fforymau'r diwydiant yn cynrychioli
cyfathrebu Nokia a strategaethau ac atebion cwmwl. Mae wedi bod yn
llongwr gydol ei oes ac mae ar hyn o bryd yn gadeirydd pwyllgor
dewiswyr rasio ieuenctid y DU yn ogystal â bod yn aelod o bwyllgor
cyfranogiad Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol ac yn aelod o'r pwyllgor.
Cafodd ei benodi'n ddiweddar yn ymddiriedolwr AllAfloat Wales,
elusen newydd a sefydlwyd i sicrhau bod y chwaraeon ar gael i
unrhyw un sy'n agos at ddŵr. Bu ganddo swyddi yn y gorffennol ar
bwyllgor rasio ieuenctid y DU a phwyllgor perfformiad Y Gymdeithas
Hwylio Frenhinol yng Nghymru. Aeth i Brifysgol Gogledd Cymru
ym Mangor ac mae wedi byw yng Nghymru ers hynny. Mae bellach yn
briod a chanddo dair merch ac mae'n byw yn Sir Fynwy. Fel
triathletwr prysur, gallwch ei weld yn aml yn beicio, rhedeg
neu nofio ac yn mwynau cefn gwlad Cymru.
Hannah Murphy
Graddiodd Hannah o Brifysgolion Durham a
Chaerdydd, gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf Gwleidyddiaeth a
Ffrangeg, a Gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd, a
dechreuodd ei gyrfa yng Ngwasanaeth Sifil y DU, lle y cyflawnodd
nifer o rolau gweithredol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn yr
Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau gynt. Symudodd Hannah i'r
amgylchedd gwleidyddol, gan ddechrau fel ymchwilydd i Weinidog yr
Wrthblaid ar gyfer Iechyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, cyn
symud ymlaen i fod yn Uwch Gynghorydd Gwleidyddol iddo.
Aeth Hannah yn ôl i'r Gwasanaeth Sifil yn 2014,
i ymuno â Grŵp Gweithredu Llywodraeth y DU fel Cynghorydd Polisi,
yn llywio gwaith dadreoleiddio'r Llywodraeth ac arbenigo mewn
gwaith deddfwriaeth. Dechreuodd ei gyrfa ym myd chwaraeon gyda
Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (yr ECB), lle y mae'n cyfuno ei
brwdfrydedd ynghylch chwaraeon a gwleidyddiaeth, gan gynghori'r ECB
ar ei berthynas â Llywodraethau Cymru a'r DU. Fel Pennaeth Polisi
Cyhoeddus, mae arbenigedd Hannah yn cynnwys llywodraethu chwaraeon
a datblygu a gweithredu polisïau ar draws y sectorau chwaraeon a
chwaraeon ar gyfer datblygu.
Mae Hannah yn angerddol am chwaraeon a'r rôl y mae'n gallu'i
chwarae mewn cymdeithas i drawsnewid bywydau a chysylltu cymunedau.
Rajma Begum
Mae gan Rajma dros 10 mlynedd o brofiad ym maes Rheoli
Prosiectau. Ar hyn o bryd, mae'n Arweinydd Strategol ar gyfer
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad (Pobl Dduon a Lleiafrifoedd
Ethnig) mewn Chwaraeon ledled Cymru - (WCVA). Yn bennaf, mae'n
cyflwyno hyfforddiant cynhwysiad i gyrff llywodraethu cenedlaethol,
clybiau ac Ymddiriedolaethau Datblygu Chwaraeon a Hamdden
Awdurdodau Lleol i addysgu pobl am rwystrau diwylliannol/crefyddol
rhag chwaraeon, y Dyletswydd Cydraddoldeb, a chynnig cymorth i
wneud clybiau/cyfleusterau'n gynhwysol ar gyfer cymunedau amrywiol
Cymru. Yn flaenorol, bu Rajma'n gysylltiedig â gŵyl ffilmiau WOW,
yn datblygu partneriaethau ac yn cefnogi dangosiadau ffilmiau ar
gyfer menywod duon a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau amrywiol
ledled de Cymru; yn ogystal, bu'n ymwneud â Streetgames UK, lle
sefydlodd y Fforwm Chwaraeon cyntaf i Ferched a Menywod yng
Nghymru.
Dafydd Trystan Davies
Mae gan Dafydd brofiad helaeth o arwain a chyflawni ym maes
rheoli sefydliadau. Mae'n Gofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Rhedeg Cymru, sy'n annog pobl i
redeg yn gymdeithasol; mae hefyd yn sylfaenydd ac arweinydd (LiRF)
grŵp rhedeg amlddiwylliannol ac amlieithog. Roedd ei gyfrifoldeb
blaenorol fel Prif Weithredwr Plaid Cymru yn cynnwys rheoli'r tîm o
staff, y gyllideb a gweithredu'r strategaeth wleidyddol. Mae Dafydd
wedi bod yn Gadeirydd y Fenter Gymdeithasol arobryn sy'n cynnwys
Cardiff Bikes Workshop, sy'n ailgylchu mwy na 500 o feiciau'r
flwyddyn, a TooGoodToWaste, sy'n ailgylchu cannoedd o dunelli o
ddodrefn y cartref, gan helpu dwsinau o bobl i gael gwaith bob
blwyddyn.
Nicola Mead-Batten
Mae Nicola yn Bartner yn y cwmni cyfraith fasnachol, Capital
Law, yng Nghaerdydd, lle mae'n gyfrifol am y tîm cyfraith gyhoeddus
a rheoleiddio. Mae practis Nicola yn cynnwys gwaith proffesiynol, y
cyfryngau a rheoleiddio chwaraeon. Cyn dychwelyd adref i Gaerdydd,
treuliodd Nicola bron degawd yn gweithio i'r cwmni rhyngwladol,
Baker McKenzie - yn Llundain a Melbourne, Awstralia; bu hefyd yn
gweithio'n fewnol gydag Accenture, yr Awdurdod Safonau Proffesiynol
a Chronfa Bensiwn Swyddogion y Llynges Fasnachol. Mae Nicola yn
briod a chanddi ddau o blant ifanc. Mae'n rhedwr brwd, yn ogystal â
bod yn gefnogwr pêl-droed, rygbi'r undeb, tennis a phêl-droed
rheolau Awstralaidd brwd.
Delyth Evans
Ar hyn o bryd, mae Delyth yn gweithio fel ymgynghorydd llawrydd
ym maes polisi cyhoeddus. Cyn hynny, bu'n Gadeirydd a chyfarwyddwr
anweithredolVolunteer Space, sef cwmni cychwyn technoleg sy'n
datblygu llwyfannau digidol ar gyfer gwirfoddoli yn y sector
elusennol a chorfforaethol. Roedd Delyth yn Aelod o Gynulliad
Cymru, a chafodd ei phenodi'n Ddirprwy Weinidog Diwylliant, yr
Amgylchedd a Materion Gwledig, a chyn hynny gweithiodd fel
newyddiadurwr newyddion a materion cyfoes i'r BBC ac ITV, gan
ddarparu adroddiadau darlledu helaeth iHTV WalesaSky News. Mae
rolau gwirfoddol blaenorol Delyth yn cynnwys Aelod o Fwrdd
Asiantaeth Ffilm Cymru ac YmddiriedolwrUnited Response(elusen
anableddau dysgu sy'n gweithredu ledled y DU).
Papurau Bwrdd
Copïau o agenda a chofnodion cyfarfodydd diweddaraf Bwrdd
Chwaraeon Cymru ar gael i'w gweld.